Petter Dass

BarddNorwyaidd yn yr iaith Ddano-Norwyeg a gweinidog Protestannaidd oedd Petter Dass (164717 Awst1707) sydd yn nodedig fel y llenor pwysig cyntaf yn llenyddiaeth fodern Norwy.

Petter Dass

Portread o Petter Dass gan arlunydd anhysbys (1684).
Ganwyd c. 1647 
Helgeland 
Bu farw 17 Awst 1707 
Alstahaug 
Dinasyddiaeth Norwy 
Alma mater
Galwedigaeth ysgrifennwr, offeiriad, bardd 

Ganed yn Nord Herøy, ger Alstahaug, yn nheyrnas Denmarc–Norwy, yn fab i farsiandïwr Albanaidd a mam o Helgeland. Astudiodd ym Mhrifysgol Copenhagen a chafodd ei ordeinio yn yr Eglwys Lwtheraidd ym 1677. Aeth i weinidogaethu Alstahaug ym 1689, ac yno y bu am weddill ei oes.[1]

Dosbarthwyd ei farddoniaeth ar ffurf llawysgrifau ymhlith y ffermwyr, bugeiliaid, a physgotwyr yn ei blwyf, a byddent yn dwyn ei benillion i’w cof. Yr unig gerdd a gyhoeddwyd yn ystod ei oes oedd Den nordske dale-viise (1683). Cesglid nifer o’i emynau a cherddi sanctaidd wedi ei farwolaeth yn y gyfrol Bibelski viise-bog (1711). Mae’n debyg ei waith enwocaf yw Nordlands trompet, cerdd dopograffaidd am Nordland a gyfeirir at y werin bobl.

. . . Petter Dass . . .

  1. (Saesneg) Petter Dass. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Rhagfyr 2021.

. . . Petter Dass . . .

This article is issued from web site Wikipedia. The original article may be a bit shortened or modified. Some links may have been modified. The text is licensed under “Creative Commons – Attribution – Sharealike” [1] and some of the text can also be licensed under the terms of the “GNU Free Documentation License” [2]. Additional terms may apply for the media files. By using this site, you agree to our Legal pages . Web links: [1] [2]

. . . Petter Dass . . .

Previous post Tsafasiaid
Next post Vikki Howells