House of Cards (Netflix)

Mae House of Cards yn gyfres we-deledu wleidyddol Americanaidd a ddatblygwyd a chynhyrchir gan Beau Willimon. Mae’n addasiad o’r mini-gyfres BBC a seiliwyd ar y nofel gan Michael Dobbs. Ymddangoswyd y gyfres gyntaf gyfan, sy’n cynnwys 13 pennod, am y tro cyntaf ar y gwasanaeth ffrydio Netflix ar 1 Chwefror, 2013. Ymddangoswyd ail gyfres o 13 pennod am y tro cyntaf ar 14 Chwefror, 2014, ac ymddangoswyd y drydedd gyfres am y tro cyntaf ar 27 Chwefror, 2015. Adnewyddyd House of Cards ar gyfer pedwaredd gyfres, a fe’i hymddangoswyd am y tro cyntaf ar 4 Mawrth, 2016. Ym mis Ionawr 2016, cyhoeddodd Neflix bod y gyfres wedi cael ei hadnewyddu ar gyfer pumed cyfres a ryddhawyd yn 2017. Cyhoeddwyd y byddai Willimon yn gadael ei swydd fel rhedwraig ar y rhaglen ar ddiwedd y bedwaredd gyfres.[1]

House of Cards
Genre Drama wleidyddol
Crëwyd gan Beau Willimon
Seiliwyd ar:
House of Cards
gan Michael Dobbs
Seiliwyd ar:
House of Cards
gan Andrew Davies
Serennu Kevin Spacey
Robin Wright
Kate Mara
Corey Stoll
Michael Kelly
Sakina Jaffrey
Kristien Connolly
Sebastian Arcelus
Michel Gill
Nathan Darrow
Rachel Brosnahan
Constance Zimmer
Mahershala Ali
Elizabeth Norment
Sandrine Holt
Jayne Atkinson
Molly Parker
Gerald McRaney
Jimmi Simpson
Elizabeth Marvel
Derek Cecil
Mozhan Marno
Paul Sparks
Neve Campbell
Joel Kinnaman
Cyfansoddwr y thema Jeff Beal
Gwlad/gwladwriaeth Yr Unol Daleithiau
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 5
Nifer penodau 65
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 43-59 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol Netflix
Rhediad cyntaf yn 1 Chwefror, 2013 – presennol
Cysylltiadau allanol
Gwefan swyddogol

Ar 30 Hydref 2017, cyhoeddodd Netflix mai’r gyfres derfynol y byddai’r chweched cyfres, yn dilyn honiadau o gamymddwyn rhywiol yn erbyn Spacey. Ar 3 Tachwedd 2017, cyhoeddodd Netflix bod Spacey wedi cael ei ddiswyddo o’r rhaglen. Ar 4 Rhagyfr 2017, cyhoeddodd Netflix y cynhyrchir chweched cyfres gydag wyth pennod yn gynnar yn 2018 heb Spacey. Rhyddheir y gyfres derfynol yn nes ymlaen yn 2018.

. . . House of Cards (Netflix) . . .

Lleolir yn y presennol yn Washington, D.C., dilyna House of Cards stori Frank Underwood (Kevin Spacey), Democrat o’r 5ed ardal gyngresol De Carolina a Chwip y Blaid Fwyafrifol yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr. Ar ôl iddo gael ei wrthod ar gyfer swydd fel Ysgrifennydd Gwladol, mae’n dechrau cynllwyno i gael swydd well, gyda chymorth ei wraig, Claire Underwood (Robin Wright). Delia’r gyfres gyda’r themâu o bragmatiaeth annhosturiol,[2] defnyddio pobl, a phŵer.[3]

Dengys y lluniau isod rhai aelodau o’r prif gast o gyfresi 1-4.

. . . House of Cards (Netflix) . . .

This article is issued from web site Wikipedia. The original article may be a bit shortened or modified. Some links may have been modified. The text is licensed under “Creative Commons – Attribution – Sharealike” [1] and some of the text can also be licensed under the terms of the “GNU Free Documentation License” [2]. Additional terms may apply for the media files. By using this site, you agree to our Legal pages . Web links: [1] [2]

. . . House of Cards (Netflix) . . .

Previous post Hidalgo County, Mecsico Newydd
Next post Washington County, Texas