Mudiad Hawliau Sifil America

Roedd Mudiad Hawliau Sifil America yn frwydr ac yn ymgyrch gan bobl ddu Unol Daleithiau America a’u cefnogwyr i roi diwedd ar y gwahaniaethu a’r arwahanu hiliol, a’r difreinio a’r rhagfarnau oedd yn bodoli yn UDA. Roedd gwreiddiau’r ymgyrch i’w cael yng nghyfnod yr Ailymgorfforiad wedi Rhyfel Cartref America (1861-65). Er bod 14eg a’r 15fed gwelliant i gyfansoddiad yr Unol Daleithiau wedi sicrhau cydraddoldeb yn ôl y gyfraith i bawb yn UDA ac wedi rhoi’r bleidlais i bobl ddu, nid oedd y newid mewn deddfwriaeth wedi newid agweddau pobl tuag at bobl ddu, ac roedd hiliaeth yn parhau i effeithio ar bob agwedd ar eu bywydau.

Data cyffredinol
Enghraifft o’r canlynol mudiad cymdeithasol, mudiadau hawliau sifil 
Math mudiadau hawliau sifil 
Rhan o hanes Affro-Americanaidd 
Dechreuwyd 1954 
Daeth i ben 1968 
Gwladwriaeth Unol Daleithiau America 
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Llwyddodd y mudiad i sicrhau deddfwriaethau pwysig yn y 1960au ar ôl blynyddoedd o weithredu uniongyrchol a phrotestiadau ar lawr gwlad. Pwysleisiai’r mudiad wrthwynebiad di-drais ac ymgyrchoedd lle defnyddiwyd anufudd-dod sifil fel rhan o’u tactegau protest. Yn y pen draw, arweiniodd yr ymgrchoedd at sicrhau cyfreithiau ffederal newydd oedd yn amddiffyn hawliau dynol pob Americanwr.

Ar ôl Rhyfel Cartref America a diddymiad caethwasiaeth yn y 1860au, roedd y newidiadau i Gyfansoddiad America yn sicrhau rhyddfreiniad a hawliau cyfansoddiadol i bob dinesydd Affricanaidd-Americanaidd. Ond yn raddol amddifadwyd pobl ddu o’u hawliau sifil oherwydd Deddfau Jim Crow, a dioddefodd pobl ddu erledigaeth a thrais cynyddol oddi wrth oruchafiaethwyr gwyn yn y taleithiau deheuol. Yn ystod y ganrif ddilynol ymdrechodd ac ymgyrchodd pobl ddu America i sicrhau hawliau sifil a chyfreithiol cydradd. Ym 1954, bu achos Brown v. Bwrdd Addysg Topeka yn gam pwysig o ran chwalu arwahanu oddi mewn i’r system addysg, a rhwng 1955 a 1968 bu protestiadau di-drais ac anufudd-dod sifil ar raddfa eang. Arweiniodd y rhain at ddeialog rhwng ymgyrchwyr ac awdurdodau y Llywodraeth.

Yn aml iawn roedd yn rhaid i lywodraeth ffederal, taleithiol a lleol, busnesau, cwmnïau a chymunedau ymateb yn syth i’r sefyllfaoedd hyn, a gorfodwyd hwy i wynebu’r anghyfiawnder a wynebai pobl ddu America ar draws y wlad. Bu lynsio erchyll y bachgen ifanc o Chicago, Emmet Till, yn 1955, yn gyfrwng i uno ymateb pobl ddu ar draws America. Arweiniodd hyn at brotestiadau, anufudd-dod sifil fel boicotio adeg Boicot y Bysus yn Montgomery (1955-56) yn Alabama; ‘protestiadau eistedd i mewn’ neu’r ‘sit-ins’ fel yn Greensboro (1960) yng Ngogledd Carolina a Nashville, Tennessee; gorymdeithiau enfawr fel Crwsâd y Plant yn Birmingham, Alabama yn 1963 a’r gorymdeithiau rhwng Selma a Montgomery, Alabama yn 1965 yn ogystal â nifer o enghreifftiau eraill o weithgareddau a gwrthdystiadau di-drais.

Yn ystod y 1950au a’r 1960au, diddymwyd llawer o’r cyfreithiau a oedd wedi caniatáu arwahanu a gwahaniaethu hiliol gan Lys Goruchaf UDA o dan arweiniad y Barnwr Earl Warren, yn anghyfansoddiadol. Penderfynodd y Barnwr Warren ar nifer o gerrig milltir pwysig yn erbyn gwahaniaethu hiliol – er enghraifft, achos Brown v.Bwrdd Addysg Topeka (1954), Heart of Atlanta Motel, Inc v. UDA (1964) a Loving v. Virginia (1967), a wnaeth wahardd arwahanu mewn ysgolion gwladwriaeth a llety cyhoeddus, ac a waharddodd gyfreithiau taleithiol oedd yn gwahardd priodasau rhyng-hiliol.[1]

Bu’r penderfyniadau hyn yn hollbwysig o ran rhoi diwedd ar y Cyfreithiau Jim Crow oedd yn gyffredin yn y taleithiau deheuol.[2]

Yn ystod y 1960au pasiwyd sawl deddf a fu’n drobwynt yn hanes hawliau pobl ddu America. Roedd Deddf Hawliau Sifil1964[3] yn gwahardd gwahaniaethu ar sail hil, lliw croen, crefydd, rhyw neu dras mewn cyflogaeth, yn gwahardd arwahanu hiliol mewn ysgolion, y gweithle ac yn sicrhau hawliau cydradd mewn siopau a bwytai. Byddai Comisiwn Hawliau Cydradd mewn Cyflogaeth yn cael ei sefydlu hefyd er mwyn archwilio cwynion. Roedd Deddf Hawliau Pleidleisio 1965 yn gwahardd hiliaeth mewn pleidleisio a Deddf Llety Teg 1968 yn anelu at roi diwedd ar hiliaeth ym maes tai.[4]

Ysgogwyd cenhedlaeth newydd o bobl ifanc du i brotestio ac ymgyrchu yn ystod y 1960au a 1970au gyda thon o derfysgoedd a phrotestiadau mewn cymunedau du yn yr ardaloedd trefol-ddinesig. Lleihaodd hyn y gefnogaeth oddi wrth y dosbarth canol gwyn i’r mudiad ond bu cynnydd yn y gefnogaeth a ddaeth oddi wrth elusennau preifat.

Rhwng 1965 a 1975 ymddangosodd y mudiad Pŵer Du ac roedd Malcolm X yn un o’i brif arweinyddion. Roedd yn fudiad a oedd yn herio agwedd a thactegau arweinyddiaeth Martin Luther King o’r Mudiad Hawliau Sifil ohewydd credent y dylid ddefnyddio trais er mwyn cael mwy o hawliau i bobl ddu. Yn eu barn nhw roedd angen i bobl ddu greu cymdeithas annibynnol a oedd yn wleidyddol ac yn economaidd hunan-gynhaliol heb ddibynnu ar gymuned y dyn gwyn. Roedd Martin Luther King yn un o brif arweinyddion y Mudiad Hawliau Sifil yn America, gan ennill Gwobr Heddwch Nobel yn 1964 oherwydd ei arweinyddiaeth garismataidd a’i fod yn cymell cefnogwyr y mudiad i ddefnyddio dulliau di-drais.

. . . Mudiad Hawliau Sifil America . . .

Y[dolen marw] KKK yn Chicago, c.1920

Cyn Rhyfel Cartref America roedd tua 4 miliwn o bobl ddu mewn caethiwed yn y De. Dim ond dynion gwyn a fedrai bleidleisio ac roedd Deddf Dinasyddio 1790 yn cyfyngu dinasyddiaeth UDA i bobl gwyn yn unig. Yn dilyn y Rhyfel Cartref, pasiwyd tri newid i Gyfansoddiad America oedd yn rhoi diwedd ar gaethwasiaeth. Yn ystod cyfnod yr ailgorfforiad rhwng 1863 hyd 1877 bu ymdrech yn y De i sicrhau cyflogaeth rhydd a hawliau sifil ar ôl diwedd caethwasiaeth. Ond bu gwrthwynebiad oddi wrth wahanol garfannau a grwpiau yn y gymuned oherwydd y newidiadau cymdeithasol ac economaidd fyddai’n digwydd oherwydd hynny. Arweiniodd hyn at dwf grwpiau parafilwrol a rhai oedd yn hyrwyddo syniadau goruchafiaeth gwyn, fel y Ku Klux Klan.

Roedd y Ku Klux Klan (KKK) yn fudiad hiliol a therfysgol oedd yn erlid, llofruddio a lynsio pobl ddu. Protestaniaid Eingl-Sacsonaidd Gwyn (White Anglo-Saxon Protestants – WASPs) oedd aelodau’r KKK yn bennaf, gyda llawer ohonynt yn bobl wyn dlawd a oedd wedi eu cythruddo gan yr hawliau a;r rhyddid newydd oedd yn cael eu rhoi i bobl ddu. Roedd dylanwad a phresenoldeb y mudiad yn bwerus yn nhaleithiau’r De ac roeddent hefyd yn hiliol eu hagweddau tuag at fewnfudwyr a oedd yn Iddewon, Catholigion, Sosialwyr neu’n Gomiwnyddion.[5]

Roedd pobl ddu yn byw mewn ofn parhaus o’r KKK yn enwedig pan oedd y mudiad ar ei anterth o ran aelodau a throseddau ar ddechrau’r 20g. Sefydlwyd y mudiad yn gyntaf yn fuan wedi Rhyfel Cartref America a gwisgent wisg wen fel lifrai. Treisiwyd, lladdwyd a llofruddiwyd nifer o bobl ddu yn ystod y cyfnod hwn, gydag ymosodiadau, thaflu tar a phlu, crogi a lynsio (a arweiniwyd yn aml gan ddynion y Klan), yn ddigwyddiadau cyffredin yn nhaleithiau’r De. Ni chosbwyd aelodau’r Klan oedd yn cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn oherwydd yn aml iawn roeddent yn aelodau parchus a blaenllaw o’r gymdeithas, fel barnwyr, llywodraethwyr taleithiol ac aelodau o’r heddlu.[6]

. . . Mudiad Hawliau Sifil America . . .

This article is issued from web site Wikipedia. The original article may be a bit shortened or modified. Some links may have been modified. The text is licensed under “Creative Commons – Attribution – Sharealike” [1] and some of the text can also be licensed under the terms of the “GNU Free Documentation License” [2]. Additional terms may apply for the media files. By using this site, you agree to our Legal pages . Web links: [1] [2]

. . . Mudiad Hawliau Sifil America . . .

Previous post South Bend Township, Pennsylvania
Next post Cooperstown, Efrog Newydd