Gwaith John Thomas

Mae Gwaith John Thomas yn llyfr yng Nghyfres y Fil[1] a olygwyd gan Syr Owen Morgan Edwards. Argraffwyd y llyfr ym 1905 gan R E Jones a’i Frodyr, Conwy ac fe gyhoeddwyd gan Lyfrau Ab Owen, Llanuwchllyn.[2]

Llun wynebddalen
Data cyffredinol

. . . Gwaith John Thomas . . .

Mae Gwaith John Thomas yn hunangofiant o fywyd cynnar Y Parch Dr John Thomas, Lerpwl (1821—1892).[3] Roedd John Thomas, yn awdur, yn olygydd cylchgronau Cymraeg ac yn un o weinidogion amlycaf yr Annibynwyr yn ei gyfnod.[4]

Ganwyd John Thomas yng Nghaergybi ym 1821. Ysgrifennodd ei hunangofiant i nodi ei ben-blwydd yn 65, felly tua 1886. Cadwyd copïau o’r llawysgrif o’r hunangofiant gan ei feibion y Parch Owen Thomas a’r Parch Josiah Thomas. Cafodd O. M. Edward fenthig y llawysgrif i’w trawsysgrifio ar gyfer Cyfres y Fil.

Mae copi o’r llyfr wedi ei osod ar Wicidestun.[5]

Mae’r llyfr yn cychwyn gyda rhagymadrodd gan O. M. Edwards. Ar ôl y rhagymadrodd mae Thomas yn rhoi cyflwyniad i’w hanes teuluol sy’n cynnwys rhoi llinach dadol sy’n mynd yn ôl i 1472. Mae’r hunangofiant go iawn yn cychwyn gyda geni Thomas yng Nghaergybi. Pan mae o tua chwech oed mae’r teulu yn symud i Fangor. Cawn hanes magwraeth ac addysg y gwrthrych ym Mangor. Pan oedd Thomas yn 10 mlwydd oed bu farw ei dad a bu’n rhaid i’r bachgen ifanc ymadael a’r ysgol i chwilio am waith. Mae’n gweithio yn gyntaf mewn siop groser, ar ôl 9 mis yn siop y groser mae’n symud i weithdy a siop crydd o’r enw Dafydd Llwyd. Roedd cymdeithasfa yn y gweithdy lle fu trafod mawr ar bynciau llosg y dydd. Yn ogystal â dysgu sut i wneud sgidiau mae John hefyd yn dysgu sut i gyflwyno ac amddiffyn ei farn am grefydd a gwleidyddiaeth.

Methodistiaid Calfinaidd oedd y teulu Thomas, a fu John yn gwrando ar rai o gewri’r pulpud Methodistaidd pan ymwelant â Bangor: John Jones, Talysarn, John Elias; Henry Rees, Dr Lewis Edwards, John Hughes, Pontrobert a llawer mwy. Ymunodd John Thomas a’r achos dirwest oedd newydd ei gyflwyno i Gymru pan oedd yn ŵr ifanc.

Wedi methu cael gwaith fel crydd ar ôl gorffen ei brentisiaeth mae Thomas yn symud i Brestatyn i gadw ysgol. Tua’r un cyfnod dechreuodd areithio mewn cyfarfodydd dirwest. Gan ei fod yn cael cydnabyddiaeth ariannol da am ei areithiau penderfynodd mynd ar daith areithio hir, gyda’r gobaith o fynd yr holl ffordd i lawr i’r deheubarth. Ar y ffordd cyfarfu a’r Parch Roger Edwards yn Aberhonddu. Gan ei fod yn areithiwr derbyniol awgrymodd Edwards y gwnâi pregethwr derbyniol hefyd. Ond cyngor Edwards oedd bod raid iddo gael cartref sefydlog i ddod yn bregethwr yn hytrach na bod yn grwydryn. Penderfynodd troi yn ôl i Fangor.

Gan fod rhai o Fethodistiaid Bangor wedi awgrymu ei fod yn hyf ac ymffrostgar am gyd-areithio gyda rhai o gewri’r pulpud Cymreig ac yntau’n glaslanc dibrofiad, teimlai na chai ei godi’n bregethwr ganddynt hwy. Roedd yr Annibynwyr yn gyffredinol, a Dr Arthur Jones, gweinidog Annibynnol Bangor, yn benodol, wedi bod yn gefnogol iddo penderfynodd newid enwad, er siom i’w deulu. Dechreuodd pregethu i’r Annibynwyr ym 1839. Symudodd i Dabor, ger Rhoslan, Sir Gaernarfon i gadw ysgol yn yr wythnos ac i bregethu ar y Sul. Mae’r llyfr yn rhoi llawer o sylw i’r rhwyg ymysg yr Annibynwyr rhwng cynulleidfawyr traddodiadol fel Dr Arthur Jones a’r cyfundrefnwyr Emrys a Caledfryn. O herwydd cysylltiad John Thomas â Dr Jones mae’r rhwyg yn cael effaith andwyol ar yrfa gynnar Thomas fel pregethwr er ei fod o wedi penderfynu peidio cymryd ochr. Ar ôl blwyddyn yn Nhabor mae’n penderfynu gwella ar ei addysg ei hun ac mae o’n sôn yn y llyfr am ei gyfnodau yn ysgol Marton ger Croesoswallt ac Athrofa Ffrwd y Fâl, Llansawel, Sir Gaerfyrddin lle fu’n ymbaratoi am y weinidogaeth. Wedi gorffen ei addysg ragbaratoawl dydy Thomas ddim yn cael galwad yn syth, ac mae’n cael ei siomi pan fo capeli sydd wedi awgrym y cai alwad yn ei adael i lawr. Yn y pendraw mae’n cael ei ordeinio yn weinidog ar gapel Bwlch Newydd, Aber-nant. Mae’r llyfr yn darfod gydag adroddiad am daith pregethu i’r gogledd gan y gweinidog ifanc newydd.

. . . Gwaith John Thomas . . .

This article is issued from web site Wikipedia. The original article may be a bit shortened or modified. Some links may have been modified. The text is licensed under “Creative Commons – Attribution – Sharealike” [1] and some of the text can also be licensed under the terms of the “GNU Free Documentation License” [2]. Additional terms may apply for the media files. By using this site, you agree to our Legal pages . Web links: [1] [2]

. . . Gwaith John Thomas . . .

Previous post Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
Next post Plainfield, Connecticut