
Falcon
Teulu o rocedi gwennol (aml-ddefnydd) yw’r Falcon a gynhyrchir gan un o gwmniau Elon Musk: Space Exploration Technologies Exploration (neu SpaceX) ac aelwir yn ‘rocedi lansio’. Yn 2017 roedd y rocedi a ddefnyddiwyd yn cynnwys y Falcon 1 a’r Falcon 9.
Lansiwyd y Falcon 1 lwyddiannus yn gyntaf ym Medi 2008, wedi sawl methiant blaenorol. Mae’r Falcon 9 (EELV)-class gryn dipyn yn fwy na’r Falcon 1 ac roedd ei thaith lwyddianus gyntaf i’r gofod ar ei lansiad cyntaf, sef ar 4 Mehefin 2010; defnyddiai gynllun ‘gwennol’, sef fod rhannau o’r roced yn dychwelyd i’r Ddaear er mwyn eu hailddefnyddio drachefn a thrachefn. Lansiwyd y Falcon Heavy, gyda thair rhan iddi am y tro cyntaf ar 6 Chwefror 2018.
Ymhlith cynlluniau’r cwmni SpaceX mae gwladychu’r blaned Mawrth. Bwriada’r cwmni hefyd barhau i gynllunio, i gynhyrchu ac yna i lansio prosiect BFR, a wnaed yn gyhoeddus am y tro cyntaf ym Medi 2017. Dyma’r teulu o rocedi a fydd, ryw ddydd, yn cymryd drosodd o deulu’r Falcon.

. . . Falcon . . .
Nododd Elon Musk, Prif Weithredwr a sefydlydd SpaceX y galwyd y teulu hwn yn “Falcon” ar ôl y Millennium Falcon o’r gyfres ffilm Star Wars.[1]
-
Lansiad cyntaf y Falcon 9 “Full Thrust”; Rhagfyr 2015
-
Ebrill 2016, gyda’r cerbyd “CRS-8 Dragon” yn ei grombil
-
Cwch di-berson, sef man glanio “Full Thrust” ar 8 April 2016
-
GovSat; Ionawr 2018
Uwchraddiwyd y Falcon 9 v1.2 (llysenw: “Full Thrust”) o’r Falcon 9 V1.1 ac fe’i lansiwyd yn llwyddiannus am y tro cyntaf ar 22 Rhagfyr 2015 ar gyfer cludo ORBCOMM-2 o bad lansio SLC-40, Cape Canaveral. Yr uwchraddio oedd newid tanc y tanwydd hylif ocsigen i un llawer mwy: daeth hyn a chynydd o 33% ym mherfformiad “Full Thrust”.[2]
. . . Falcon . . .