
BBC Radio Cymru
Gorsaf radio BBC Cymru yw BBC Radio Cymru, sy’n darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae wedi bod yn darlledu rhaglenni radio yn Gymraeg ledled Cymru ers iddi ddarlledu gyntaf ar 3 Ionawr1977. Pan gafodd ei sefydlu, hon oedd yr unig orsaf radio i ddarlledu ar donfedd FM yn unig. Erbyn hyn, mae hefyd yn darlledu ar radio digidol DAB, ar Freeview yng Nghymru, ar gebl digidol ac ar loeren drwy wledydd Prydain cyfan, ers 2005; fe’i darlledir hefyd dros y Rhyngrwyd ers Ionawr 2005 – i bedwar ban byd[2]. Mae’r rhaglenni’n cael eu cynhyrchu yn eu stiwdios yn Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a Chaerfyrddin.
Cychwynnodd yr orsaf 6.45am ddydd Llun gyda Geraint Jones yn cyflwyno’r gwasanaeth newydd. Gwyn Llewelyn oedd y llais nesaf i’w glywed, yn darllen bwletin newyddion pymtheg munud o hyd.[3] Yn dilyn hynny am 7am oedd y rhaglen frecwast Helo Bobol a gyflwynwyd gan Hywel Gwynfryn. Roedd bwletin newyddion eto am 7.45am.
Yn ystod y dydd mae’n darparu cymysgedd o raglenni gan gynnwys newyddion (yn rhaglenni Dros Frecwast, Dros Ginio a Post Prynhawn, ynghyd a bwletinau bob awr), sgwrs a cherddoriaeth, a rhaglenni dyddiol fel Aled Hughes, Bore Cothi, Tudur Owen a Geraint Lloyd.
Ar 25 Gorffennaf 2020, symudodd y gorsafoedd radio o y Ganolfan Ddarlledu yn Llandaf i bencadlys newydd yn Sgwâr Canolog, Caerdydd. Ar Radio Cymru 2 am 7yb, darlledwyd y Sioe Frecwast gyda Daniel Glyn o’r stiwdio newydd, gyda Huw Stephens a Caryl Parry Jones ym gwmni iddo. Yna ar Radio Cymru am 11yb, darlledwyd Y Sioe Sadwrn gyda Shelley Rees a Rhydian Bowen Phillips. Roedd Hywel Gwynfryn, un o gyflwynwyr cyntaf Radio Cymru yn 1977, yn y stiwdio ar gyfer y darllediad cyntaf hanesyddol. Cyflwynodd ei sioe cyntaf ef o’r adeilad newydd ar ddydd Sul, 26 Gorffennaf.[4]
. . . BBC Radio Cymru . . .
Ar ddydd Llun, 19 Medi 2016, lansiwyd ail wasanaeth radio, Radio Cymru Mwy am gyfnod arbrofol o dri mis yn y cyfnod yn arwain at ben-blwydd Radio Cymru yn 40 oed. Roedd yn cynnwys pump awr o raglenni adloniant a cherddoriaeth bob diwrnod o’r wythnos, a roedd ar gael ar DAB yn y de-Ddwyrain ac ar lein.
Chwe mis yn ddiweddarach cyhoeddodd BBC Cymru y byddai ail orsaf radio, Radio Cymru 2, yn cael eu lansio ar fore Llun, 29 Ionawr 2018.[5] I gychwyn bydd yn darparu sioe frecwast yn cynnwys cymysgedd o gerddoriaeth ac adloniant.[6] Bydd yr orsaf ar gael drwy lwyfannau digidol – DAB, teledu digidol a BBC iPlayer Radio. Yn Hydref 2017 cyhoeddwyd mai’r cyn-newyddiadurwr Dyfan Tudur fyddai’n arwain y gwasanaeth newydd.[7]
Yn Rhagfyr 2017 cadarnhawyd amserlen cyntaf yr orsaf:[8]
- Dydd Llun i ddydd Iau, 6.30-8.30 – Caryl Parry Jones a Dafydd Du (Dafydd Meredydd)
- Dydd Gwener, 6.30-8.30 – Huw Stephens
- Dydd Sadwrn, 7.00-9.00 – Lisa Angharad
- Dydd Sul, 8.00-10.00 – Lisa Gwilym
Rhestr o gyflwynwyr cyfredol:
. . . BBC Radio Cymru . . .